Radio Luxembourg
Oddi ar Wicipedia
- Am yr orsaf radio, gweler Radio Luxembourg (gorsaf radio).
Radio Luxembourg | |
---|---|
![]() |
|
Clawr EP Diwrnod efo'r Anifeiliaid | |
Gwybodaeth Cefndirol | |
Lle Geni | ![]() |
Cerddoriaeth | Pop seicadelig |
Blynyddoedd | 2005– |
Label(i) Recordio | Recordiau Peski |
Gwefan | http://radiolux.steffan.org.uk |
Aelodau | |
Meilyr Jones, Dylan Hughes, Ben Herrick, Alun Gaffey |
|
Prif Offeryn(au) | |
Llais, gitâr, gitâr fas, synth, drymiau |
Grŵp pop seicadelig a ffurfiwyd yn Aberystwyth yn 2005 yw Radio Luxembourg. Diolch i gigio a recordio cyson mae'r grwp yma wedi profi llwyddiant mawr mewn amser byr iawn. Prif ganwr a chyfansoddwr y band yw Meilyr Jones (gynt o'r band Mozz) - sydd hefyd yn chwarae'r gitâr fas. Mae Dylan "Huggies" Hughes yn chwarae'r synth. "Bass Drum" Ben Herrick sy'n chwarae'r drymiau. Alun "Gaff" Gaffey (sydd hefyd yn chwarae i'r grwp ffwnc a sgiffl Pwsi Meri Mew) sy'n chwarae'r gitâr. Mae eu holl gynnyrch hyd yn hyn wedi ei gynhyrchu gan Euros Childs. Dylunwyd clawr eu dau EP diweddaraf, Diwrnod efo'r Anifeiliaid a Where is Dennis? / Cartoon Cariad gan Ruth Jên, mae hi hefyd wedi dylunio set ar y cyd gyda'r band ar gyfer eu perfformiadau byw.
[golygu] Disgograffi
- Pwer y Fflwer / Lisa, Magic a Porfa - Ciwdod / Cerdd Cymunedol Cymru
- Os Chi'n Lladd Cindy]] - AM
- Diwrnod efo'r Anifeiliaid, 11 Mawrth 2007, (Recordiau Peski)
- Where is Dennis? / Cartoon Cariad, 5 Tachwedd 2007, (Recordiau Peski)
[golygu] Gwobrau ac Anrhydeddau
- Sesiwn C2 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- EP/Sengl - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- Y Grŵp a Ddaeth Fwyaf i Amlygrwydd yn Ystod 2005 - Gwobrau Roc a Phop C2 2006
- EP/Sengl/Lawrlwythiad - ar gyfer Os Chi'n lladd Cindy - Gwobrau Roc a Phop C2 2007
- Band/Artist y Flwyddyn - Gwobrau Roc a Phop C2 2007