Ras yr Wyddfa
Oddi ar Wicipedia
Ras a gynhelir yn flynyddol o bentref Llanberis yng Ngwynedd i gopa yr Wyddfa ac yn ôl yw Ras yr Wyddfa neu Ras Ryngwladol yr Wyddfa.
Dechreuodd y ras pan awgrymodd Ken Jones o Lanberis ym mhwyllgor Carnifal Llanberis y dylid trefnu ras o'r pentref i gopa'r Wyddfa ac yn ôl. Cynhaliwyd y ras gyntaf ar 19 Gorffennaf 1976, pan enillodd Dave Francis o Fryste mewn amser o 1 awr 12 munud 05 eiliad.
Mae'r ras yn awr yn cychwyn ger glannau Llyn Padarn. Y record hyd yma yw 1 awr 2 funud a 29 eiliad gan Kenny Stuart o Keswick yn 1985. Y record i gopa'r Wyddfa yw 39 munud a 47 eiliad gan Robin Bryson o Iwerddon.