Reading
Oddi ar Wicipedia
Tref fawr yn Berkshire, de Lloegr yw Reading. Mae hi tua 40 milltir i'r gorllewin o Lundain. Ar ddiwrnod cyfrifiad 2001 y boblogaeth oedd 145,000. Mae Reading yn sefyll yn agos at draffordd yr M4 ac mae ar y llinell rheilffordd rhwng Llundain, Bryste a de Cymru. Mae'r dref yn cynnal gŵyl gerddoriaeth roc fawr blynyddol.