Rhestr Llengoedd Rhufeinig
Oddi ar Wicipedia
Y Lleng (Lladin: Legio), oedd yr uned filwrol nodweddiadol o'r fyddin Rufeinig. Roedd maint lleng yn amrywio, ond yn oes aur Rhufain roedd tua 5,000 - 6,000 o wyr. Gweler Lleng Rufeinig.
Roedd gan pob lleng ei rhif, ond mae'n bwysig sylwi fod modd i fwy nag un lleng fod a'r un rhif. Roeddynt yn cael eu gwahaniaethu gan enwau, a allai gyferio at fuddugoliaeth a enillodd y lleng, y wlad lle ffurfiwyd hi neu'r person a'i ffurfiodd. Mae rhai llengoedd yn dwyn yr enw Gemina (Efaill), sy'n dynodi eu bod wedi eu ffurfio trwy gyfuno dwy leng flaenorol. Ychwanegir y blynyddoedd y bu'r lleng mewn bodolaeth a nodir yr ymerawdwr neu'r person arall a'i ffurfiodd.
[golygu] Llengoedd yr Ymerodraeth Gynnar
Legio I
- Legio I Germanica (Almaenaidd) - 48 C.C. hyd 70 O.C. Iŵl Cesar
- Legio I Adiutrix (Cynorthwyol) - 68 O.C. hyd (o leiaf) 444 O.C. Nero
- Legio I Italica (Eidalaidd) - Medi 22 66 hyd (o leiaf) 5ed ganrif, Nero
- Legio I Macriana liberatrix (Rhyddhawyr Macer) - 68 hyd 69 O.C. Lucius Clodius Macer, rhaglaw Affrica
- Legio I Minervia (dan amddiffyniad y dduwies Minerva) - 82 O.C. hyd (o leiaf) 4edd ganrif, Domitian
- Legio I Parthica (Parthaidd) - 197 hyd dechrau'r 6ed ganrif, Septimius Severus
Legio II
- Legio II Adiutrix Pia Fidelis (cynorthwydd ffyddlon a theyrngar) - 70 O.C. hyd (o leiaf) 3edd ganrif, Vespasian
- Legio II Augusta (codwyd gan Augustus) – cyn 9 O.C. hyd o leiaf 3edd ganrif
- Legio II Gallica (o Gallia) – efallai enw arall ar y Legio II Augusta
- Legio II Italica (Eidalaidd) - 165 hyd ddechrau'r 5ed ganrif, Marcus Aurelius
- Legio II Parthica (Parthaidd) – 197 O.C. hyd ganol y 4edd ganrif, Septimius Severus
- Legio II Traiana Fortis (Lleng gref Trajan) - 105 O.C. hyd (o leiaf) 5ed ganrif, Trajan
- Legio II Germanica (Almaenaidd) – o'r 3edd ganrif, Caracalla
Legio III
- Legio III Augusta (codwyd gan Augustus) – 43 C.C. hyd (o leiaf) diwedd y 4edd ganrif, Augustus
- Legio III Cyrenaica (o Cyrenaica) – tua 36 C.C. hyd (o leiaf) 5ed ganrif, Marcus Antonius
- Legio III Gallica (o Gallia) – tua 49 C.C. hyd o leiaf ddechrau'r 4edd ganrif, Iŵl Cesar
- Legio III Italica (Eidalaidd) - 165 O.C. Hyd o leiaf ddechrau'r 4edd ganrif, Marcus Aurelius
- Legio III Parthica (Parthaidd) - tua 197 O.C. hyd o leiaf ddechrau'r 5ed ganrif, Lucius Septimius Severus
Legio IV
- Legio IV Macedonica (Macedoniaidd) - 48 C.C. hyd 70 O.C. (chwalwyd gan Vespasian), Iwl Cesar
- Legio IV Scythica (o Scythia) - tua 42 C.C. hyd o leiaf ddechrau'r 5ed ganrif, Marcus Antonius
Legio V
- Legio V Alaudae (Yr Ehedyddion) - 52 C.C. hyd 70 O.C., Iwl Cesar
- Legio V Macedonica (Macedoniaidd) - 43 C.C. hyd ar ôl 400 O.C., y conswl Gaius Vibius Pansa Caetronianus ac Augustus
- Legio V Urbana, efallai'n enw cynnar ar Legio V Macedonica
- Legio V Gallica, efallai'n enw cynnar ar Legio V Macedonica
Legio VI
- Legio VI Ferrata (Haearnaidd) - 52 C.C. hyd ar ôl 250 O.C., Iwl Cesar
- Legio VI Victrix (Buddugol) - 41 C.C. hyd diwedd y 4edd ganrif, Augustus
- Legio VI Hispaniensis (o Sbaen]], enw arall ar Legio VI Victrix
Legio VII
- Legio VII Claudia Pia Fidelis (lleng ffyddlon a theyrngar y Clawdiaid) - 58 C.C. hyd ddiwedd y 4edd ganrif O.C., Iŵl Cesar
- Legio VII Paterna (Tadol), enw Legio VII Claudia Pia Fidelis hyd 42 O.C.
- Legio VII Gemina (Yr Efaill) - Hydref 68 O.C. hyd diwedd y 4edd ganrif O.C., Galba
Legio VIII
- Legio VIII Augusta (ffurfiwyd gan Augustus), 59 C.C. hyd ar ôl 371 O.C. - Augustus
- Legio VIII Gallica (o Gallia), enw blaenorol y VIII Augusta
- Legio VIII Mutinensis (o Mutina), enw blaenorol y VIII Augusta
Legio IX
- Legio IX Hispana (Sbaenaidd) - cyn 41 C.C. hyd cyn 160 O.C., Augustus
Legio X
- Legio X Fretensis (O'r culfor) - 41 / 40 C.C. hyd o leiaf 260 O.C., Augustus
- Legio X Gemina (Yr Efaill) - 44 C.C. hyd ddechrau'r 5ed ganrif, Lepidus
Legio XI
- Legio XI Claudia Pia Fidelis (lleng y Claudiaid, ffyddlon a theyrngar) - 42 C.C. hyd ddechrau'r 5ed ganrif, Augustus
Legio XII
- Legio XII Fulminata (y Daranfollt) - 43 C.C. hyd (o leiaf) 5ed ganrif, Lepidus
Legio XIII
- Legio XIII Gemina (Yr Efaill) - 41 C.C. hyd (o leiaf) 5ed ganrif, Augustus
Legio XIV
- Legio XIV Gemina Martia Victrix (Efaill a buddugol yn filwrol) - Augustus
Legio XV
- Legio XV Apollinaris (yn perthyn i'r duw Apollo) - 41 / 40 C.C. hyd 5ed ganrif - Augustus
- Legio XV Primigenia (yn perthyn i'r dduwies Fortuna) - 39 O.C. hyd 70 O.C., Caligula
Legio XVI
- Legio XVI Gallica (o Gallia) - 41 / 40 C.C. hyd 70 O.C. - Augustus
- ail-ffurfiwyd fel Legio XVI Flavia Firma (lleng Fflafiaidd gadarn) - 70 O.C. hyd 4edd ganrif - Vespasian
Legio XVII
- Legio XVII - 41 C.C. hyd 9 O.C., Augustus
- (Dinistriwyd y lleng yma a'r ddwy sy'n dilyn, y XVIII a'r XIX, gan yr Almaenwyr ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn y flwyddyn 9 OC Ni chawsant eu hail-ffurfio)
Legio XVIII
- Legio XVIII - 41 C.C. hyd 9 O.C., Augustus
Legio XIX
- Legio XIX - 41 C.C. hyd 9 O.C., Augustus
Legio XX
- Legio XX Valeria Victrix (Dewr a Buddugoliaethus) - wedi 31 C.C. hyd ddiwedd y 3edd ganrif, Augustus
Legio XXI
- Legio XXI Rapax (Rheibiol) - 31 C.C. hyd 92 O.C. Augustus
Legio XXII
- Legio XXII Deiotariana (ffurfiwyd gan Deiotarus) - 48 C.C. hyd tua 132-136 O.C. Deiotarus
- Legio XXII Primigenia (yn perthyn i'r dduwies Fortuna) - 39 hyd 3edd ganrif, Caligula
Legio XXX
- Legio XXX Ulpia Victrix (Lleng Ulpiaidd fuddugol) - 105 O.C. hyd ddechrau'r 5ed ganrif, Trajan
[golygu] Y llengoedd Rhufeinig tua 80 O.C.
Lleoliad gwersyllfeydd y llengoedd Rhufeinig yn y flwyddyn 80.
Mae'r rhifau yn cyfeirio at:
- Legio IX Hispana: Eburacum (Caer Efrog)
- Legio XX Valeria Victrix a Legio II Adiutrix: Deva (Caer)
- Legio II Augusta: Isca Silurum (Caerlion ar Wysg)
- Legio XXII Primigenia a Legio X Gemina: Noviomagus (Nijmegen)
- Legio VI Victrix: Novaesium (Neuss)
- Legio XXI Rapax: Bonna (Bonn)
- Legio XIV Gemina: Moguntiacum (Mainz)
- Legio I Adiutrix: Brigetio (Szöny)
- Legio VIII Augusta: Argentoratum (Strasbourg)
- Legio XI Claudia: Vindonissa (Windisch)
- Legio XV Apollinaris: Carnuntum (Parc Archaeolegol Carnuntum)
- Legio XIII Gemina: Poetovio (Ptuj)
- Legio VII Claudia: Viminacium (Kostolac)
- Legio V Macedonica: Oescus (Gigen)
- Legio I Italica: Novae (Svishtov)
- Legio V Alaudae:Oescus (Gigen? ansicr!)
- Legio IV Flavia Felix: Burnum (Kistanje)
- Legio XIV Flavia Firma: Satala (Sadagh)
- Legio XII Fulminata: Malatya (Melitene)
- Legio VI Ferrata: Samosata (Samsat)
- Legio IV Scythica: Zeugma (Belkis)
- Legio III Gallica: Raphanaea
- Legio X: Aelia Capitolina (Jerusalem)
- Legio XXII Deiotariana: Nicopolis (Yr Aifft)
- Legio III Cyrenaica: Coptos (Qift)
- Legio III Augusta: Lambaesis (Tazoult-Lambese)
- Legio VII Gemina: Legio (Léon) (Léon)