Trajan
Oddi ar Wicipedia
Trajan (Marcus Ulpius Traianus) (18 Medi 53 - 9 Awst 117), oedd ymerawdwr Rhufain rhwng (98 a 117).
Ganed Trajan yn y ddinas Rufeinig Italica (Santiponce heddiw), heb fod ymhell o ddinas Hispalis (Sevilla heddiw), rhan o dalaith Baetica. Yr oedd ei dad, oedd a'r un enw, yn un o ddilynwyr pwysicaf Vespasian. Dilynodd Trajan yr yrfa gyhoeddus draddodiadol, gan ddod yn gonswl yn 91. Priododd Ulpia Plotina, ond ni fu ganddynt blant.
Yn ystod teyrnasiad Nerva daeth Trajan yn rhaglaw talaith Germania Superior. Mabwysiadodd Nerva ef fel mab ac fel olynydd iddo. Yr oedd Trajan yn filwr galluog, ac ar ôl dod yn ymerawdwr parhaodd i ymladd ar Afon Rhein ac Afon Donaw. Ni ddaeth i Rufain am y tro cyntaf fel ymerawdwr hyd y flwyddyn 99. Bu'n ymladd llawer yn erbyn y Daciaid, oedd yn byw yn yr ardal sy'n awr yn Rwmania. Bu dau ryfel yn erbyn Decebalus, brenin Dacia, a gorchfygwyd ef gan Trajan, gan greu talaith Rufeinig newydd Dacia. Adeiladwyd Colofn Trajan yn Rhufain i goffhau ei fuddugoliaeth. Tua'r un pryd crewyd talaith Arabia Petraea.
Yn 113 dechreuodd rhyfel yn erbyn y Parthiaid. Cipiodd Ctesiphon, prifddinas Parthia, yn 115, ac ymgorfforwyd Armenia, Asyria a Mesopotamia yn yr ymerodraeth. Bu farw Trajan ar ei ffordd yn ôl o'r brwydro yma, yn Selinus, gerllaw y Môr Du, ar yr 8 Awst 117. Yn ystod teyrnasiad Trajan y cyrhaeddodd yr ymerodraeth Rufeinig ei maint eithaf. Dewisodd Trajan Hadrian fel ei olynydd.
O'i flaen : Nerva |
Ymerodron Rhufain Trajan |
Olynydd : Hadrian |