Richard Lewis Jones (Dic Jones)
Oddi ar Wicipedia
Mae Richard Lewis Jones (1934- ) yn fardd a ffermwr o Geredigion, a aned yn Nhre'r-ddôl yng ngogledd Sir Aberteifi.
Mae Dic Jones wedi treulio'r rhan helaeth o'i oes yng ngodre Ceredigion, yn ffermio'r Hendre, Blaenannerch, ar bwys Aberteifi. Fe ddysgodd ei grefft fel bardd gwlad gan Alun Cilie. Enillodd cadair Eisteddfod yr Urdd bum waith yn ystod y 1950au, ac enillodd Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1966 yn Aberafan gyda'i adwl Y Cynhaeaf. Yn 1976, yn Eisteddfod Aberteifi dyfarnwyd bod Dic wedi torri un o reoli'r cystadleuaeth, a fe gollodd y Gadair i Alan Llwyd.
[golygu] Archdderwydd
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, cyhoeddwyd y byddai Dic Jones (Dic yr Hendre) yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru y flwyddyn ddilynol.
[golygu] Cerddi
- Agor Grwn - 1960
- Caneuon Cynhaeaf - 1969
- Storom Awst - 1978
[golygu] Dolenni Allanol
- BBC Cymry ar yr awyr - recordiad o Dic Jones yn siarad yn 1973