Rowland Vaughan
Oddi ar Wicipedia
Bardd a chyfieithydd i'r Gymraeg oedd Rowland Vaughan (c. 1587 - 18 Medi, 1667). Roedd yn frenhinwr ac eglwyswr selog yn y Rhyfeloedd Cartref.
Ganed Rowland Vaughan tua 1587 yn fab i John Vaughan a'i wraig Elin, perchnogion plasdy hanesyddol Caer Gai, plwyf Llanuwchllyn, Meirionnydd. Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Rhydychen ond does dim cofnod i ddangos iddo raddio yno. Priododd Jane ferch Edward Price o Dref-pysg yn Llanuwchllyn. Cawsant nifer o blant, hyd at wyth efallai.
Cymerodd Vaughan ran flaenllaw yn y cyntaf a'r ail o'r Rhyfeloedd Cartref. Roedd yn Uchel Siryf Meiriionnydd yn 1642-43. Dywedir iddo ymladd fel capten ar ochr y brenin Siarl ym Mrwydr Naseby. Pan ddaeth lluoedd y Werinlywodraeth i Feirion llosgwyd Caer Gai i'r llawr ganddynt i ddial arno. Cafodd loches yng Nghilgellan ar lethrau Aran Benllyn. Yn 1650 fe'i dalwyd a chafodd ei garcharu yng Nhgaer am gyfnod. Roedd bywyd yn galed arno ar ôl y rhyfel a bu rhaid iddo fenthyg arian gan berthnasau ar fwy nag un achlysur. Bu farw ar 18 Medi, 1667.
Ymddiddorai Rowland Vaughan mewn barddoniaeth a chanai ar y mesurau caeth a rhydd (cyfansoddai ei wraig Jane o leiaf un gerdd ac roedd ei fab hynaf John yn fardd yn ogystal). Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi rhydd ar ôl ei farwolaeth, yn 1729. Ond fel cyfieithydd rhyddiaith dduwiol rhwydd a chain ei arddull y cofir Rowland Vaughan heddiw. Ei waith mwyaf adnbayddus yw ei Yr Ymarfer o Dduwioldeb (1630).
Ceir llech gofeb iddo yn eglwys Llanuwchllyn.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Rowland Vaughan
- Yr Ymarfer o Dduwioldeb (1630)
- Eikon Basilike (c. 1650)
- Yr Arfer o Weddi yr Arglwydd (1658)
- Pregeth yn Erbyn Schism (1658)
- Prifannau Sanctaidd neu Lawlyfr o Weddiau (1658)
- Ymddiffyniad Rhag Pla o Schism (1658)
- Prifannau Crefydd Gristnogol (1658)
- Evchologia: neu Yr Athrawiaeth i arferol weddio (1660)
- Carolau a Dyriau Duwiol (1729)
[golygu] Darllen pellach
Cyhoeddwyd adargraffiad o'r Ymarfer o Dduwioldeb gan John Ballinger yn 1930. Ceir pennod ar Vaughan gan Gwyn Thomas yn Y Traddodiad Rhyddiaith, cyf. 2 (gol. Geraint Bowen, 1970).