Sarmatiaid
Oddi ar Wicipedia

"Sarmatia Europæa" wedi ei rhannu oddi wrth "Sarmatia Asiatica" gan Afon Tanais (Afon Don yn Rwsia heddiw). Map o tua 1770, yn seiliedg ar yr haneswyr Groegaidd.
Roedd y Sarmatians, Sarmatae neu Sauromatae yn bobl o dras Iranaidd a ymfudodd o Ganolbarth Asia i ardal Mynyddoedd Ural tua'r 5ed ganrif CC. Ceir cyfeiriad atynt gan Herodotus yn y cyfnod yma. Pan oedd eu tiriogaeth ar ei fwyaf, roedd yn ymestyn o Afon Fistula hyd aber Afon Donaw ac o wlad yr Hyperboreaid yn y gogledd hyd ar y Môr Du a Môr y Caspian a'r ardal rhyngddynt cyn belled a Mynyddoedd y Caucasus. Mae'r darganfyddiadau mwyaf nodedig o feddau ac olion eraill wedi eu gwneuf yn Krasnodar Krai yn Rwsia.
Roedd y Sarmatiaid yn perthyn yn agos i'r Scythiaid. Bu cryn lawer o ymladd rhyngddynt hwy a'r Ymerodraeth Rufeinig, ac yn y 4edd ganrif gwnaethant gynghrair a'r Hyniaid.