Silwraidd
Oddi ar Wicipedia
Cyfnod daearegol a dechreuoedd tua 408.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl ac y daeth i ben tua 443.5 miliwn o flynyddoedd yn ôl yw'r Cyfnod Silwraidd. Roedd yn dilyn y Cyfnod Ordofigaidd a daeth y Cyfnod Defonaidd ar ôl y Cyfnod Silwraidd. Mae'n gyfnod a welodd ddifodiant 60 y cant o anifeiliaid a phlanhigion môr.
Wnaeth y daearegydd Syr Roderick Murchison ddisgrifio y Cyfnod Silwraidd am y tro cyntaf a chyhoeddi'r llyfr The Silurian System ym 1839, ar ôl gweld creigiau yn Nhraethau Marloes, De Cymru. Enwyd y Cyfnod ar ôl y Silwriaid, llwyth Celtaidd a oedd yn byw yn yr ardal.
Yn ystod y Cyfnod Silwraidd roedd Uwchgyfandir Gondwana yn dal i fod yn y de, ond ffurfiodd y cyfandiroedd eraill yr Uwchgyfandir mawr Laurasia.
Cwrelau a brachiopodau yw'r ffosilau a geir mewn creigiau o'r Cyfnod Silwraidd.
Cyfnod blaen | Cyfnod hon | Cyfnod nesaf |
Ordofigaidd | Silwraidd | Defonaidd |
Cyfnodau Daearegol |