Snaefell
Oddi ar Wicipedia
Snaefell Bryniau Ynys Manaw |
|
---|---|
![]() |
|
Llun | Snaefell |
Uchder | 620m (2036 troedfedd) |
Gwlad | Ynys Manaw |
Snaefell (Manaweg: Sniaul) yw mynydd uchaf Ynys Manaw a'i hunig gopa sy'n uwch na 2000 troedfedd. Mae'n enw Hen Norseg sy'n golygu "Mynydd yr Eira". Dywedir y gellir gweld chwech teyrnas o'r copa ar ddiwrnod braf, sef Cymru, Iwerddon, Yr Alban, Lloegr, ac Ynys Manaw, ynghyd â Theyrnas y Nef ei hun. Mae rhai fersiynau yn ychwanegu seithfed, teyrnas Neifion, y Môr. Mae Rheilffordd Fynydd Snaefell yn rhedeg am y 4 milltir o Laxey i'r copa. Fel yn achos Yr Wyddfa, ceir caffi ar y copa.
Mae ffordd yr A18 (a adnabyddir fel 'Ffordd Fynydd Snaefell') yn croesi llethrau isaf Snaefell, ac yn ffurfio rhan uchaf llwybr rasus motorbeic y TT, a gynhelir yn flynyddol ar Ynys Manaw.
Ceir rhai mynyddoedd yng Ngwlad yr Ia a enwir yn Snæfell yn ogystal (yr un enw ydyw, ond gyda sillafiad gwahanol), gan gynnwys y mynydd sy'n lleoliad i rewlif enwog Snæfellsjökull.