Manaweg
Oddi ar Wicipedia
Manaweg (Yn Ghaelg, Yn Ghailck) | |
---|---|
Siaredir yn: | Ynys Manaw |
Parth: | |
Siaradwyr iaith gyntaf: | 56 (mewn addysg cyfrwng Manaweg) 1689 fel ail iaith (cyfrifiad 2001) |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
Achrestr ieithyddol: | Indo Ewropeaidd |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Defnydd swyddogol o dro i dro yn y Tynwald. |
Rheolir gan: | Coonseil ny Gaelgey |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | gv |
ISO 639-2 | glv |
ISO 639-3 | glv |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Iaith Geltaidd gynhenid Ynys Manaw yw Manaweg (Manaweg: Gaelg/Gailick). Mae'n perthyn yn agos i ieithoedd Celtaidd Iwerddon a'r Alban - Gwyddeleg a Gaeleg - fel rhan o'r is-deulu ieithyddol Celteg Q neu Goideleg (sydd gyda Brythoneg yn rhan o'r teulu mwy Celteg Ynysol.
Credir i'r iaith Fanaweg gael ei chyflwyno i'r ynys gan ymsefydlwyr o Wyddelod yn y 4edd ganrif OC neu'r 5ed (ymsefydlai llwythi eraill o Iwerddon mewn rhannau gorllewinol o Gymru a'r Alban yn yr un cyfnod). Mae milewniwm gyntaf ei bodolaeth yn dywyll. Does dim llenyddiaeth o'r cyfnod wedi goroesi ac rhaid dibynnu ar dystiolaeth enwau lleoedd a phersonol am ein gwybodaeth. Dim ond yn y 18fed ganrif a'r 19eg y daw'r dystiolaeth ysgrifenedig gyntaf i'r golwg (ac eithrio ambell arysgrifiad a chofnod byr) ar ffurf cyfieithiadau crefyddol, geiriaduron a gramdegau, yn ogystal â cherddi llafar a baledi â'i gwreiddiau yn yr 16eg ganrif efallai.
Daeth yr iaith i ben fel iaith gymunedol naturiol yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Bu farw siaradwr cynhenid olaf y Fanaweg yn 1974, ond mae'r iaith wedi cael ychydig o adfywiad yn ddiweddar. Fe'i siaredir gan rai cannoedd o Fanawiaid - rhai sydd wedi dysgu'r iaith o ddiddordeb, a rhai o'u plant yn ogystal. Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 1,689 yn gallu siarad, darllen ac ysgrifennu'r iaith.
[golygu] Llyfryddiaeth
- G. Broderick, A Handbook of Late Spoken Manx. 3 cyfrol. (Llundain, 1984-86)
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Newyddion ym Manaweg (clywedol)
[golygu] Gweler hefyd
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Ieithoedd Celtaidd | ||||||||||||||||||||||||||
|
||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwelwch hefyd: Ieithyddiaeth · Y Celtiaid · Gwledydd Celtaidd |