Strabo
Oddi ar Wicipedia
Strabon, daearolegwr Groeg enwog (c. 64 CC-c.OC 19), yn enedigol o Amaseia, Pontus, yn Asia Leiaf, a flodeuai yn amser yr ymherawdwyr Cesar Awgwstws a Tiberiws.
Ganwyd Strabo yn fab i rieni gweddol dda ei byd yn Amaseia, yn Pontus, hen dalaith Roeg yn Asia Leiaf a oedd erbyn hynny'n rhan o'r Ymerodraeth Rufeinig. Astudiodd yn gyntaf dan diwtoriaeth yr athronydd crwydr (peripatetig) Xenarchus (fl. diwedd y 1af ganrif CC). Fel ei athro roedd yn arddel Stoïciaeth, athroniaeth y Stoïciaid. Ar ôl gorffen ei addysg ymroddodd i astudiaethau hanes a daearyddiaeth. Teithiodd yn eang gan ymweld â rhan helaeth o Asia Leiaf, yr Aifft hyd at gyffiniau Ethiopia, sawl ardal yng Ngwlad Groeg, a hefyd yr Eidal, gan gynnwys y brifddinas Rhufain. Gyda'i raglaenydd Ptolemi mae Strabo yn cael ei ystyried yn dad Daearyddiaeth. Ysgrifenodd sawl llyfr, gan gynnwys llyfr hanes pwysig mewn 47 llyfr, a oedd yn parhad o waith Polybius o'r 5fed llyfr ymlaen; darnau a dyfyniadau yn unig sydd wedi goroesi. Dim ond ei Γεωγραφικά (Geographica, "Daearyddiaeth") sydd wedi goroesi'n destun gweddol gyflawn. Yn ffodus y llyfr hwnnw yw ei gampwaith.
[golygu] Ffynonellau
- F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913).
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities, gyda ychwanegiadau gan H. Nettleship a J.E. Sandys (Llundain, 1902).