Tîm pêl-droed Catalwnia
Oddi ar Wicipedia
Nid oes gan Gatalwnia gydnabyddiaeth rhyngwladol i'w tîm pêl-droed cenedlaethol gan FIFA na UEFA. Serch hynny, mae gan y genedl dîm cenedlaethol yn chwarae gemau rhynwgladol â gwledydd cydnabyddiedig.
Mae ymgyrch yn bodoli, Seleccions Esportives Catalanes, i Gatalwnia gael ei chydnabod ym mhob maes chwaraeon. Oherwydd poblogrwydd pêl-droed yng Nghatalwnia ac yn rhyngwladol gwelir yr ymgyrch i ennill cydnabyddiaeth gan UEFA a FIFA fel un o'r rhai mwyaf pwysig. Cyfeirir at y ffaith fod gan sawl tiriogaeth nad sy'n wladwriaeth annibynnol megis Cymru, Yr Alban, Ynysoedd Ffaroe ac, ers Rhagfyr 2006, Gibraltar, gydnabyddiaeth gan UEFA ac / neu FIFA.
Mae dyheuad nifer o Gatalanwyr dros gael tim pêl-droed rhynwgladol gydnabyddiedig yn debyg i'r dyheuad yn Llydaw a Gwlad y Basg.
[golygu] Dolen allanol
- (Catalaneg) Seleccions Esportives Catalanes