Teruel
Oddi ar Wicipedia
Dinas yng nghymuned ymreolaethol Aragón yn Sbaen yw Teruel. Teruel yw prifddinas y dalaith o'r un enw, a gyda poblogaeth o 34,240 yn 2006, hi yw'r briffddinas talaith leiaf ei phoblogaeth yn Sbaen. Saif lle mae Afon Guadalaviar ac Afon Alfambra yn cyfarfod, 915 medr uwch lefel y môr.
Ar ddechrau Rhyfel Cartref Sbaen, cipiwyd Teruel gan gefnogwyr Franco. Llwyddodd milwyr y weriniaeth i adfeddiannu'r ddinas, yr unig ddinas iddynt ei chipio yn ystod y rhyfel, ond ar 22 Chwefror 1938 cipiodd milwyr Franco y ddinas eto.
Nodwedd fwyaf arbennig Teruel yw ei phensaerniaeth mudéjar, a enwyd fel Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco. Mae Eglwys Gadeiriol Santa María de Teruel hefyd yn nodedig.