Thomas Herbert Parry-Williams
Oddi ar Wicipedia
Thomas Herbert Parry-Williams (1887-1975), bardd, ysgrifwr ac athro prifysgol, adnabyddir fel T.H. Parry-Williams fel rheol. Ef yw awdur y gerdd enwog 'Hon'.
Ganed T.H. Parry-Williams yn Rhyd-ddu, lle'r oedd ei dad yn ysgolfeistr. Roedd yn gefnder i Robert Williams Parry. Graddiodd mewn Cymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1908, yna cymerodd radd arall mewn Lladin y flwyddyn wedyn. Aeth i Goleg Yr Iesu, Rhydychen ac yna i Brifysgolion Freiburg a Paris i astudio ymhellach. Penodwyd ef i Gadair y Gymraeg yn Aberystwyth yn 1920, ac ar ôl ymddeol yn 1952 parhaodd i fyw yn y dref hyd ei farwolaeth yn 1975.
Daeth i sylw cenedlaethol pan enillodd y Gadair a'r Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1912. Roedd hyn yn gamp anghyffredin iawn, ond yn 1915 gwnaeth yr un peth eto. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau o gerddi ac o ysgrifau, yn ogystal ac astudiaethau academaidd.
[golygu] Cyhoeddiadau
- The English element in Welsh (1923)
- Ysgrifau (1928)
- Cerddi (1931)
- Carolau Richard White (1931)
- Canu Rhydd Cynnar (1932)
- Olion (1935)
- Synfyfyrion (1937)
- Hen benillion (1940)
- Lloffion (1942)
- O'r pedwar gwynt (1944)
- Ugain o gerddi (1949)
- Myfyrdodau (1957)
- Pensynnu (1966)
[golygu] Cyfeiriadau
- Meic Stephens (gol) (1986) Cydymaith i lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru)