Thomas Jones (Glan Alun)
Oddi ar Wicipedia
Bardd a llenor oedd Thomas Jones (11 Mawrth 1811 - 29 Mawrth 1866), a ysgrifennai dan yr enw barddol Glan Alun.
Cafodd Glan Alun ei ddwyn i fyny yn fferyllydd ac sefydlodd busnes yn Wrecsam. Aeth yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Methodistiaid. Cychwynodd fisolyn o'r enw Y Wenynen ond nid oedd yn llwyddianus iawn. Aeth ei fusnes i'r wal a dechreuodd gwneud a gwerthu canhwyllau dros gwmni masnachol o Fanceinion. Goleddai syniadau Radicalaidd yr oes.
Ei unig waith cyhoeddedig yw'r gyfrol Ehediadau Byrion, a gyhoeddwyd yn 1862. Er nad oes lawer o werth llenyddol i'w cerddi maent yn enghraifft dda o'r farddoniaeth boblogaidd ar ganol y 19eg ganrif. Mwy diddorol heddiw efallai yw'r llyfr taith byr ar ddiwedd y gyfrol, sy'n disgrifio ei daith o gwmpas canolbarth a gogledd Cymru yn y 1840au. Mae rhai o'r darluniau a geir ynddo, fel ei ddisgrifiad o dafarn yn Llandrindod ar ddiwrnod o law, yn dangos gwreiddioldeb a ffresni nas ceir fel rheol yn y rhan fwyaf o ryddiaith y ganrif.
[golygu] Llyfryddiaeth
- Glan Alun, Ehediadau Byrion (Hugh Jones, Yr Wyddgrug, 1862)
[golygu] Ffynhonnell
- D. Ambrose Jones, Llenyddiaeth a llenorion Cymreig y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Lerpwl, 1922)