Enw barddol
Oddi ar Wicipedia
Mae enw barddol yn ffugenw a ddefnyddir gan feirdd a llenorion eraill yng Nghymru, yn arbennig yn yr eisteddfod.
Roedd y gair bardd yn un o sawl enw Cymraeg Canol a ddefnyddid gan feirdd yr Oesoedd Canol, boed yn feirdd llys neu'n feirdd crwydrol (y Glêr). Ymarddelai rhai o'r beirdd hyn ffugenw, neu enw barddol, er enghraifft Cynddelw Brydydd Mawr (fl. 1155 - 1200) a Iolo Goch (c.1320 - c.1398).
Ymddengys fod gwreiddiau'r arfer yn hynafol iawn, fel y tyst enwau Talhaearn Tad Awen, Blwchfardd a Culfardd, beirdd o'r 6ed ganrif y mae'r hanesydd Nennius yn cyfeirio atynt, ynghyd â Taliesin ac Aneirin (Aneurin Gwenithwawd), yn ei lyfr Lladin Historia Brittonum ("Hanes y Brythoniaid").
Parhaodd y traddodiad yn y cyfnod modern cynnar.
Fodd bynnag, yn sgîl gweithgareddau rhamantaidd Edward Jones (Iolo Morganwg) a llenorion eraill ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, trowyd yr enw barddol yn dipyn o gonsít ac ymarddelai rhai o feirdd mwyaf di-nod oes Victoria ffugenwau chwyddedig a hunan-bwysig, er enghraifft "Vulcan", "Cymro Gwyllt" a "Llenor y Llwyni".
Erbyn heddiw prif bwrpas yr enw barddol yw er mwyn cuddio enw iawn cystadleuwyr o bob math yn yr eisteddfod, rhag i'r beirniaid eu hadnabod.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Dosbarthiad ar enwau barddol y beirdd traddodiadol
[golygu] "Prydydd" a "Bardd"
- Meilyr Brydydd
- Llywelyn Fardd I
- Gwynfardd Brycheiniog
- Cynddelw Brydydd Mawr
- Prydydd y Moch
- Llywelyn Fardd II
- Philyp Brydydd
- Gwgon Brydydd
- Y Prydydd Bychan
- Bleddyn Fardd
- Llywelyn Brydydd Hoddnant
- Trahaearn Brydydd Mawr
- Ieuan Brydydd Hir
- Ieuan Llwyd Brydydd
[golygu] Galwedigaethau / galluoedd (ac eithrio barddoni)
- Elidir Sais - am ei fod yn deall Saesneg
- Gwilym Rhyfel - bardd a rhyfelwr
- Llygad Gŵr - bardd a rhyfelwr
- Einion Offeiriad - gŵr eglwysig
[golygu] Lliw
- Ithel Ddu
- Dafydd Ddu o Hirarddug
- Bleddyn Ddu
- Gwilym Ddu o Arfon
- Iolo Goch
[golygu] Enwau lleoedd
- Owain Cyfeiliog
- Gwynfardd Brycheiniog
- Dafydd Ddu o Hirarddug
- Llywelyn Brydydd Hoddnant
- Gwilym Ddu o Arfon
- Sypyn Cyfeiliog
- Dafydd Y Coed
- Lewys Aled
- Dafydd Epynt
- Dafydd Llwyd o Fathafarn
- Gwerful Mechain
- Guto'r Glyn
- Ieuan Dyfi
- Lewys Glyn Cothi
- Dafydd Nanmor
- Tudur Penllyn
- Hywel Cilan
- Siôn Ceri
- Huw Cae Llwyd
- Syr Rhys o Lanbryn-Mair a Charno
- Lewys Môn
- Lewys Daron
- Tudur Aled
- Gruffudd Hiraethog
- Wiliam Llŷn
- Wiliam Cynwal
- Huw Llŷn
- Morus Dwyfach
- Huw Ceiriog
- Edward Maelor
[golygu] Amryw
- Llywarch Llaety
- Llywarch y Nam
- Seisyll Bryffwrch
- Einion Wan
- Goronwy Foel
- Dafydd Benfras
- Hywel Foel
- Iorwerth Fychan
- Casnodyn
- Mab Clochyddyn
- Y Proll
- Gronw Gyriog
- Hillyn
- Sefnyn
- Rhisierdyn
- Llywarch Bentwrch
- Iorwerth Beli
- Dafydd Y Coed
- Y Mab Cryg
- Tudur Ddall
- Iorwerth Fynglwyd
[golygu] Cysylltiadau allanol
- Enwau Llên ac Enwau Cyfarwydd - rhestr ar wefan Cyngor Sir Ceredigion o lenorion o Geredigion