Tirymynach
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng Ngheredigion yw Tirymynach. Saif i'r gogledd o dref Aberystwyth, ac mae'n cynnwys pentrefi Bow Street, Clarach, Dole, Llangorwen a Pen-y-garn. Daw'r enw oherwydd fod y tir unwaith wedi bod ym mherchenogaeth Abaty Ystrad Fflur. Ar yr arfordir yng ngogledd y gymuned mae Sarn Gynfelyn, un o nifer o sarnau rhewlifol ar yr arfordir yma.
Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,888.