Tozeur (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Mae talaith Tozeur (Arabeg: ولاية توزر) yn un o 24 talaith (gouvernorat) Tunisia. Fe'i lleolir yn ngorllewin Tunisia, ac mae'n ffinio ar Algeria. Mae ganddi arwynebedd tir o 4,719 km² a phoblogaeth o 98,000 (cyfrifiad 2004). Tozeur yw prifddinas y dalaith.
Tozeur yw talaith fwyaf gorllewinol y wlad. Mae cyfran fawr ohoni yn gorwedd ar ymyl y Sahara ac yn anialwch tywodlyd neu greigiog. Yma mae anialwch y Grand Erg Oriental yn dechrau ac yn ymestyn i lawr i'r de. Yn ymyl dinas Tozeur, sydd yng nghanol y dalaith, ceir anialdir hallt Chott el-Jerid. Lleolir y rhan fwyaf o'r trefi a phentrefi ar ymylon y tir anial, o gwmpas y gwerddonau ffrwythlon lle ceir digon o ddŵr ar gyfer amaethyddiaeth a nodweddir gan blanhigfeydd palmwydd (palmeraies).
Mae'r dalaith yn cael tymherua uchel iawn yn yr haf ond mae'n fwy cymhedrol yn y gaeaf, er dal yn boeth. Ychydig iawn o law a geir, a hynny'n disgyn yn bennaf ar ymylon y dalaith ddechrau'r gaeaf.
Gorwedd talaith Tozeur yng ngogledd yr ardal anial neu led-anial a elwir Le Grand Sud ("Y De Eang") yn Tunisia.
Taleithiau Tunisia | ![]() |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan |