Tunis (talaith)
Oddi ar Wicipedia
Mae talaith Tunis (Arabeg: ولاية تونس , Ffrangeg: Gouvernorat de Tunis), a greuwyd ar 21 Mehefin 1956, yn un o 24 talaith Tunisia. Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain Tunisia ac mae ganddi arwynebedd o 346 km² (sef 0.2% o arwynebedd y wlad). Mae ganddi boblogaeth o tua 989,000 (amcangyfrifiad 2006). Ei chanolfan weinyddol yw Tunis, prifddinas Tunisia.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Daearyddiaeth
Talaith Tunis yw rhanbarth economaidd pwysicaf y wlad. Mae'n gorwedd ar lan Môr y Canoldir, o gwmpas Lac Tunis ar lan orllewinol Gwlff Tunis. Mae'r hinsawdd yn nodweddiadol o Fôr y Canoldir gyda tua 470 mm o law y flwyddyn a hafau poeth.
Yn weinyddol, ymrennir y dalaith yn 21 délégation (ardal), 8 municipalité ac 161 imada (ardal leol).
Délégation | Poblogaeth yn 2004 (nifer) |
---|---|
Bab El Bhar | 39 806 |
Bab Souika | 33 284 |
Carthage | 20 715 |
Cité El Khadhra | 36 818 |
Djebel Djelloud | 26 490 |
El Hrairia | 96 245 |
El Kabaria | 81 261 |
El Menzah | 43 320 |
El Omrane | 40 801 |
El Omrane Supérieur | 62 138 |
El Ouardia | 33 734 |
Ettahrir | 21 956 |
Ezzouhour | 40 434 |
La Goulette | 28 407 |
La Marsa | 77 890 |
La Médina | 26 703 |
Le Bardo | 70 244 |
Le Kram | 58 152 |
Sidi El Béchir | 29 911 |
Sidi Hassine | 79 381 |
Séjoumi | 36 171 |
[golygu] Economi
Lleolir maes awyr mwyaf y wlad (Maes awyr Tunis-Carthage) a phorthladd La Goulette, sy'n derbyn 98% o draffig forol y wlad, yn y dalaith. Diwydiant yw'r sector pwysicaf, er bod masnachu yn bwysig hefyd. Ceir pedwar Ardal Ddiwydiannol sy'n cynnwys 273 hectar :
- La Goulette
- La Charguia
- Ibn Khaldoun
- Jbel Jelloud
Y prif ddiwydiannau yw brethyn a dillad, lledr a sgidiau a nwyddau electronig a thrydan.
Mae'r ystadegau economaidd fel a ganlyn :
- Masnach a gwasanaethau : 49.4%
- Diwydiannau, ynni, gwaith adeiladau cyhoeddus : 34.3%
- Amaeth a pysgota : 16.3%
- Diweithdra : 14.2%
[golygu] Diwylliant
Tunis yw canolfan ddiwylliannol y wlad. Lleolir y rhan fwyaf o wasanaethau radio a theledu Tunisia yno.
[golygu] Timau pêl-droed
- Espérance sportive de Tunis
- Club Africain
- Stade Tunisien
- Avenir Sportif de la Marsa
- Étoile Olympique La Goulette Kram
Taleithiau Tunisia | ![]() |
---|---|
Ariana | Béja | Ben Arous | Bizerte | Gabès | Gafsa | Jendouba | Kairouan | Kasserine | Kebili | El Kef | Mahdia | Manouba | Medenine | Monastir | Nabeul | Sfax | Sidi Bou Zid | Siliana | Sousse | Tataouine | Tozeur | Tunis | Zaghouan |