Trawsgoed
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Trawsgoed. Saif i'r gogledd o ddyffryn Afon Ystwyth. .
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Llanafan, Llanfihangel-y-Creuddyn, Abermagwr, Cnwch-coch a'r Gors. Caiff y gymuned ei henw o blasty y Trawscoed, hen gartref teulu Vaughan. Ar un adeg, ystad y Trawscoed oedd y fwyaf yng Ngheredigion. Gerllaw'r plasdy mae olion caer Rufeinig.
Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 977.