Tremadog
Oddi ar Wicipedia
Tremadog Gwynedd |
|
Pentref ar gyrion Porthmadog, Gwynedd yw Tremadog.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Yn anarferol, mae cynllun pendant i'r pentref: fe'i sefydlwyd gan William Madocks, wedi iddo brynu'r tir ym 1798. Cwblhawyd canol y pentref ym 1811, ac ychydig iawn mae o wedi newid ers hynny. Mae sawl adeilad o ddiddordeb pensaerniol yn y pentref, gan gynnwys Capel Peniel, a adeiladwyd ar batrwm teml Roegaidd. Bwriad Maddocks oedd i Dremadog fod yn dref lawer iawn yn fwy, ac yn ganolbwynt masnachol. Bwriadodd hefyd i'r dref fod yn fan aros i gerbydau oedd ar eu ffordd i Borth Dinllaen ac Iwerddon. Ond nid felly y bu, gan i Gaergybi gymryd lle Porth Dinllaen yn brif borthladd. Wedi adeiladu'r Cob a llenwi'r Traeth Mawr, fe dyfodd Porthmadog yn hytrach na Thremadog, a phentref cymharol fach yw Tremadog hyd heddiw.
[golygu] Eisteddfod
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol anffurfiol yma ym 1872.
[golygu] Enwogion
- Lawrence o Arabia - ganwyd yn y pentre yn 1888.