Trevelín
Oddi ar Wicipedia
Mae Trevelín (neu Trefelin) yn dref gyda phoblogaeth o tua 5.000 yn nhalaith Chubut, Ariannin. Mae'r enw yn deillio o'r felin gyntaf o'r enw "Los Andes" a gychwynwyd gan John Daniel Evans yn 1889.
Trevelin oedd canolbwynt y sefydliad Cymreig o'r enw Valle 16 de Octubre gan iddo gael ei sefydlu ar y 16eg o Hydref, 1888, yn yr ardal a alwai'r Cymry yn flaenorol yn "Cwm Hyfryd". Yn 1902, yn dilyn cystadleuaeth rhwng Ariannin a Chile ynghylch perchenogaeth yr ardal, pleidleisiodd disgynyddion y Cymry i fod yn rhan o Ariannin.
Mae Trevelín yn y rhan wlyb o Batagonia, er yn agos i ffin y rhan sych, gyda thymheredd o rhwng 10°C a 5°C ar gyfartaledd a llawer o eira yn y gaeaf. Ymhlith y mannau o ddiddordeb mae'r Museo Histórico Regional yn hen felin John Evans, a Museo Cartref Taid lle gellir gweld nifer o gelfi oedd yn perthyn i John Daniel Evans. Gerllaw, mae bedd ceffyl John Evans, Malacara, a achubodd ei fywyd trwy neidio i lawr dibyn serth pan ymosodwyd arno gan Indiaid.