Tsunami
Oddi ar Wicipedia
Ton neu nifer o donnau anferth yw Tsunami (Hepburn) (o'r 津波 Siapaneg ton fawr mewn porthladd, Kunrei-shiki: Tunami). Fel arfer, mae Tsunami yn cael ei chreu ar ôl daeargryn neu ffrwydriad llosgfynydd ar waelod y môr, neu wedi i feteoryn ddisgyn i'r môr. Mae ynni Tsunami yn gyson ac yn penderfynu uchder a chyflymder y tonnau. Felly mae uchder y don yn tyfu pryd mae hi'n dod i le mwy bas ger y tir ac mae ei chyflymder yn arafu. Tra bod y don yn symud ar wyneb y môr mae hi'n isel ac yn gyflym, ac felly mae'n anodd sylwi arni, ond mewn bae neu le arall cul a bas mae'n bosibl iddi fod yn fwy nag 30m uchder ac iddi achosi niwed erchyll.
Mae systemau rhybudd gan nifer o drefi ar lan y Môr Tawel (yn bennaf yn Siapan ac yn Hawaii) ac mae Sefydliadau Seismoleg a lloerennau yn gwylio a rhagfynegi Tsunami.