Urdd y Sistersiaid
Oddi ar Wicipedia
Urdd grefyddol o fynachod yn yr Eglwys Gatholig oedd Urdd y Sistersiaid. Fe'i sefydlwyd gan Sant Robert o Molesme (tua 1027-1111) fel cangen newydd lymach ei rheolau o Urdd y Benedictiaid. Citeaux yn Ffrainc, sy'n rhoi ei henw i'r urdd, oedd y fam-abaty.
Gwnaeth Sant Bernard o Clairvaux lawer i godi statws ac urddas yr urdd ac yn y 12fed ganrif sefydlwyd nifer o dai Sistersiaidd ledled gorllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru. Yn yr 17eg ganrif diwygiwyd yr urdd a ymranwyd yn ddwy urdd newydd: y pwysicaf o lawer ohonyn yw'r Trapiaid.