Vientiane
Oddi ar Wicipedia
Vientiane yw prifddinas Laos, yn ne'r wlad.
Mae'r ddinas yn borthladd ar lan Afon Mekong ar y ffin â Gwlad Thai.
Sefydlwyd Vientiane yn y 13eg ganrif. Fel y rhan fwyaf o weddill Laos, daeth dan reolaeth Gwlad Thai yn y 18fed ganrif. Yn 1828 cafodd ei dinistrio'n llwyr bron yn ystod gwrthryfel yn erbyn Gwlad Thai. Daeth yn brifddinas tiriogaeth Ffrengig Laos ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae hi'n brifddinas Laos byth ers hynny.