Watcyn Wyn
Oddi ar Wicipedia
Pregethwr, bardd, nofelydd, emynydd ac ysgolfeistr enwog iawn yn ei ddydd oedd Watcyn Wyn, enw llawn Watkin Hezekiah Williams (1844 - 1905), a aned ger Brynaman yn Sir Gaerfyrddin. Glowr oedd ar ôl gadael ysgol yn gynnar, ond fe aeth ati i addysgu ei hun.
Sefydlodd ysgol, sef Ysgol y Gwynfryn, Rhydaman a roddodd gyfle i nifer fawr o fechgyn fedru mynd i'r weinidogaeth.
Roedd Watcyn Wyn yn eisteddfodwr brwd ac yn adnabod nifer o ffigyrau mawr yr oes. Er nad oes llawer o werth parhaol i'r rhan fwyaf o'i gerddi, ysgrifennodd hunangofiant - Adgofion Watcyn Wyn - hynod diddorol a darllenadwy, yn arbennig yr adrannau am ei blentyndod a llencyndod yn ardal Brynaman.
Ar y cyd ag Elwyn Thomas ysgrifennodd ddwy nodel ramantaidd yn ogystal.
[golygu] Llyfryddiaeth
[golygu] Llyfrau Watcyn Wyn
- Caneuon (1871)
- Hwyr Ddifyrion (1883)
- Cân a Thelyn (1895)
- (gyda Elwyn Thomas) Nansi merch y pregethwr dall (1906)
- (gyda Elwyn Thomas) Irfon Meredydd (1907)
- Adgofion Watcyn Wyn, golygwyd gan Gwili (Y Cwmni Cyhoeddiadol Addysgol, Merthyr Tudful, 1907)
[golygu] Llyfrau amdano
- Bryan Martin Davies, Rwy'n gweld o bell (1980). Astudiaeth.
- Pennar Griffiths, Cofiant Watcyn Wyn (1915)