Wyrd Sisters
Oddi ar Wicipedia
Nofel ffantasi ddigri gan Terry Pratchett ydy Wyrd Sisters, a'r chweched nofel yng nghyfres y Disgfyd. Cyhoeddwyd yn 1988. Mae'r llyfr yn ail-gyflwyno cymeriad Granny Weatherwax o nofel gynt yn y gyfres, Equal Rites.
[golygu] Crynodeb Plot
Mae'r plot yn hanfodol yn barodi o Macbeth, mae Wyrd Sisters yn canolbwyntio ar tair gwrach: Granny Weatherwax; Nanny Ogg, matriarch llwyth mawr Ogg, sy'n berchen ar y cath mwyaf drygionus yn y byd, (Greebo); a Magrat Garlick, y wrach iau, sy'n credu'n gadarn mewn gemwaith yr ocwlt, er nad ydyw'n gweithio.
Caiff y Brenin Verence I o Lancre ei lofruddio gan ei gefnder, Duke Felmet, a rhoddir coron a baban y brenin i'r tair gwrach gan forwyn tra'n dianc. Mae'r gwrachd yn rhoi'r plentyn a'r goron i grŵp o actorion sy'n teithio, gan gydnabod y byddai tynged yn dilyn ei gwrs yn y pen draw ac y buasai Tomjon yn tyfu fyny i drechu Duke Felmet.
Ond mae'r deyrnas yn flin ac nid yw eisiau aros 15 mlynedd, felly mae'r gwrachod yn ei symyd ymlaen mewn amser. Yn y cyfamser, mae Duke Felmet wedi penderfynnu cael drama wedi ei ysgrifennu a'i berfformio sy'n ffafriol iddo ac mae'n anfon y cellweiriwr i Ankh-Morpork i recriwtio y grŵp actio y mae Tomjon ynddi, sydd ddim yn teithio bellach.
Yr unig broblem ydy nad oes gan Tomjon yr awydd i fod yn frenin. Yn lwcus, mae'r cellweiriwr yn troi allan i fod yn frawd iddo felly daw ef yn frenin yn ei le.
Mae nifr o gyfeiriadau at Macbeth wedi eu plethu yn y stori, megis y Dug yn ceisio golchi'r gwaed o'i ddwylo trwy'r adeg gan ddefnyddio amryw o offerynnau megis gratur caws. Mae hefyd nifer o barodiau o Shakespeare megis The Dysk theater a Please Yourself.
Mae'r nofel wedi cael ei addasu yn fersiwn wedi ei hanimeiddio a dramodiad pedwar rhan ar gyfer BBC Radio 4, yn ogystal ac addasiad drama gan Stephen Briggs.
[golygu] Cyfieithiadau
Iaith | Teitl | Ystyr | Nodiadau |
---|---|---|---|
Bwlgareg | Посестрими в занаята | Chwiorydd yn y Grefft | |
Croateg | Vile suđenice | Tylwythion Teg Ffawd | |
Tsieceg | Soudné sestry | ||
Iseldireg | De Plaagzusters | Y Chwiorydd Profocio | |
Estoneg | Õed nõiduses | Sisters in Witchcraft | |
Ffinneg | Noitasiskokset | Chwiorydd-gwrach | |
Ffrangeg | Trois Sœurcières | Tri Chwiorydd-gwrach | Mae'r teitl yn chwarae ar eiriau: Mae Trois Sorcières yn cyfieithu fel "Tri Gwrach", ac mae Sœur yn golygu "chwaer". |
Almaeneg | MacBest | MacBest | Ar ôl 'Mac Beth' Shakespeare |
Groeg | Οι Στρίγκλες | Y Cecrennod | Trawslythreniad: I Striggles. Chwarae ar deitl drama William Shakespeare, The Taming of the Shrew |
Hebraeg | אחיות הגורל | Chwiorydd Tynged | Trawslythreniad: Akhiot HaGoral |
Hwngareg | Vészbanyák | ||
Islandeg | Örlagasystur | ||
Eidaleg | Sorellanza stregonesca | Chwaeroliaeth Hudol | |
Norwyeg | Sære søstre | Chwiorydd Annaearol | |
Pwyleg | Trzy Wiedźmy | Tri Gwrach | |
Portiwgaleg | As Três Bruxas | Y Tri Gwrach | Portiwgal |
Portiwgaleg | Estranhas Irmãs | Chwiorydd Annaearol | Brazil |
Rwsieg | Вещие сестрички | Chwiorydd Proffwydol | |
Serbeg | Sestre po metli | Chwiorydd mewn Ysgubellau | |
Sbaeneg | Brujerías | Dewiniaeth | |
Swedeg | Häxkonster | Dewiniaeth | |
Thai | สามแม่มดอลเวง | Wyrd Sisters |
[golygu] Ffynonellau
|
|
---|---|
Nofelau: |
The Colour of Magic – The Light Fantastic – Equal Rites – Mort – Sourcery – Wyrd Sisters – Pyramids – Guards! Guards! – Eric – Moving Pictures – Reaper Man – Witches Abroad – Small Gods – Lords and Ladies – Men at Arms – Soul Music – Interesting Times – Maskerade – Feet of Clay – Hogfather – Jingo – The Last Continent – Carpe Jugulum – The Fifth Elephant – The Truth – Thief of Time – The Last Hero – The Amazing Maurice and his Educated Rodents – Night Watch – The Wee Free Men – Monstrous Regiment – A Hat Full of Sky – Going Postal – Thud! – Wintersmith – Making Money – I Shall Wear Midnight |
Storïau Byr: |
"Troll Bridge" – "Theatre of Cruelty – "The Sea and Little Fishes" – "Death and What Comes Next" – "A Collegiate Casting-Out of Devilish Devices" |
Llyfrau Eraill: |
The Discworld Companion – The Science of Discworld – The Science of Discworld II: The Globe – The Science of Discworld III: Darwin's Watch – The Pratchett Portfolio – The Art of Discworld – The Unseen University Challenge – The Wyrdest Link – The Streets of Ankh-Morpork – The Discworld Mapp – A Tourist Guide to Lancre – Death's Domain – Nanny Ogg's Cookbook – The Discworld Almanak – Where's My Cow? – The Unseen University Cut Out Book – The Discworld Diaries – Once More* With Footnotes – Wit and Wisdom of Discworld |
Gemau: |
The Colour of Magic – Cripple Mr Onion - Discworld – Discworld 2 – Discworld MUD – Discworld Noir – GURPS Discworld – Stealth Chess – Thud |