Y Lluman Coch Canadaidd
Oddi ar Wicipedia
Cyn-faner Canada yw'r Lluman Coch Canadaidd. Mae'n Lluman Coch Prydeinig – baner goch gyda Baner yr Undeb yn y canton – gyda tharian arfbais Canada yn y fly. Mae gan y darian pedwar rhaniad sy'n cynrychioli Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Ffrainc, mamwledydd nifer o Ganadiaid. Mae gan ran waelod y darian tair deilen masarnen, symbol cenedlaethol y wlad ers 150 mlynedd. Er ni fabwysiadwyd y faner yn swyddogol erioed gan Senedd Canada, cynyddodd gefnogaeth am faner unigryw yn y 1960au cynnar a mabwysiadwyd y dyluniad cyfredol ar 15 Chwefror, 1965.
Mae dyluniadau baneri Manitoba ac Ontario yn seiliedig ar y Lluman Coch Canadaidd.
[golygu] Ffynonellau
- Complete Flags of the World, Dorling Kindersley (2002)