Y Tywysog William
Oddi ar Wicipedia
Mab cyntafanedig y Tywysog Siarl a Diana yw William Arthur Philip Louis Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog William. Mae'n frawd i'r Tywysog Harri.
[golygu] Chwaraeon
Mae'r tywysog yn chwarae polo ers ei ddyddiau ysgol ac yn chwarae gemau polo yn aml, e.e. yn Sandringham. Mae'n Arlywydd Cymdeithas Pêl-droed Lloegr ers Mai 2006. Cyn hynny bu eisoes yn adnabyddus am ei gefnogaeth gyhoeddus frwd i dîm pêl-droed cenedlaethol Lloegr a thîm rygbi cenedlaethol Lloegr.
Yn Awst 2006 cyhoeddwyd y byddai'n Is-noddwr Brenhinol Undeb Rygbi Cymru o Chwefror 2007. Yn ogystal, cyhoeddodd yr URC eu bod am weld gwpan i enillwyr y gemau prawf rhwng timau rygbi Cymru a De Affrica yn cael ei galw'n "Cwpan y Tywysog William"; mae hynny wedi ennyn ymateb beirniadol iawn yng Nghymru am fod nifer o bobl yn gweld William fel cefnogwr Lloegr. Rhoddodd gefnogaeth frwd ac amlwg i dîm rygbi Lloegr yng Nghwpan Rygbi'r Undeb y Byd 2007. Eisoes mae nifer o Gymry yn galw ar swyddogion Undeb Rygbi Cymru i ailystyried eu penderfyniad dadleuol i enwi'r tlws newydd o "Cwpan y Tywysog William" i "Cwpan Ray Gravell" er coffadwriaeth deilwng i'r diweddar Ray Gravell. Dadleuant fod enwi'r gwpan ar ôl y Tywysog William, Sais sy'n adnabyddus am ei gefnogaeth bersonol i dimau pêl-droed a rygbi Lloegr, yn cwbl anaddas ac mae rheitiach fyddai ei henwi ar ôl y Cymro twymgalon a garai rygbi Cymru cymaint.[1] Lawnsiwyd deiseb ar-lein yn galw am newid yr enw arfaethedig i "Gwpan Ray Gravell" ar 6 Hydref 2007; deuddydd yn ddiweddarach roedd dros 2,000 o bobl wedi ei harwyddo.[2]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ Ymgyrch 'Cwpan Grav' yn tyfu ar wefan y BBC
- ↑ Rename the Prince William Cup the Ray Gravell Cup ar wefan The Petition Site