Y Winllan
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Gwinllan.
Y Winllan oedd cylchgrawn y Wesleyaid Cymaeg ar gyfer plant. Fe'i cyhoeddid o 1848 hyd 1965.
Hyd [1960]] ymddangosodd y cylchgrawn yn fisol. Ar ôl hynny cafodd ei gyhoeddi yn ddeufisol hyd ei uno â chylchgronau crefyddol eraill yn y Gymraeg ar gyfer plant yn 1965 dan y teitl Antur.
Y golygydd cyntaf oedd Dr Thomas Jones, a ddewisodd yr enw. Yn yr 1870au John Evans (Eglwysbach) oedd wrth y llyw. Y llenor a gweinidog Edward Tegla Davies oedd y golygydd o 1920 i 1928.
Dros y blynyddoedd cyhoeddwyd gwaith sawl llneor yn Y Winllan yn, cynnwys Edward Tegla Davies (Nedw, Y Doctor Bach, Rhys Llwyd Y Lleuad, Hen Ffrindiau, Stori Sam a Hunangofiant Tomi fel cyfresi cyn eu cyhoeddi yn llyfrau) a Kate Roberts (Deian a Loli a Laura Jones).
[golygu] Cyfeiriadau
- Eric Edwards, Yr Eglwys Fethodistaidd, Hanes Ystadegol (Gwasg Gomer, 1980)