Yr Angor (Aberystwyth)
Oddi ar Wicipedia
Yr Angor yw papur bro ardal Aberystwyth. Mae'n cynnwys yn ei ardal cylchrediad Comins Coch, Llanbadarn Fawr, Penparcau a'r Waunfawr. Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf y papur ym mis Hydref 1977.[1] Syniad Llywelyn Phillips oedd y papur, ef hefyd oedd y golygydd ar y cyd gyda Menna Lloyd Williams.