Ysgol Llandwrog
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd dwy-ieithog Cymraeg a Saesneg ydy Ysgol Llandwrog. Lleolir ym mhentref Llandwrog tua dwy ffilltir i'r de-orllewin o Gaernarfon yng Ngwynedd. Mae'r ysgol dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Mae'r ysgol yn nhalgylch Ysgol Syr Hugh Owen. ROedd 65 o ddisgyblion rhwng oedran 3-11 yn 2005. Daw 60% o’r disgyblion o gartrefi ble siaredir Cymraeg fel iaith gyntaf, ond siaradai 86% o'r plant Gymraeg i safon iaith gyntaf.[1]