Ysgol Tryfan
Oddi ar Wicipedia
Ysgol Gyfun Gymraeg ym Mangor yw Ysgol Tryfan.
Sefydlwyd yr ysgol ar safle'r hen Ysgol Sirol i'r Genethod ym 1978 fel ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg i gylch Bangor. Fe'i lleolwyd ar Lon Powys yn ardal Maes Tryfan, heb fod ymhell o Benrhosgarnedd, a thua milltir o ganol Dinas Bangor. Mae tua 400 o ddisgyblion yn yr ysgol. Mr Gareth Isfryn Hughes BAdd yw'r prifathro.
[golygu] Cyn-ddisgyblion Nodedig
- Ffion Dafis - Actores a chyflwynydd
- Luned Emyr - Cyflwynydd
- Tudur Dylan Jones - Prifardd
- Robin McBryde - chwaraewr rygbi rhyngwladol
[golygu] Ysgolion Cynradd yn Nhalgylch yr Ysgol
- Ysgol Glanadda
- Ysgol Glancegin
- Ysgol Babanod Coedmawr
- Ysgol y Garnedd
- Ysgol y Felinheli
- Ysgol Hirael
- Ysgol Y Faenol
- Ysgol Llandygai
- Ysgol Cae Top
- Ysgol Ein Harglwyddes