Ysgol y Creuddyn
Oddi ar Wicipedia
Ysgol uwchradd Gymraeg yn sir Conwy yw Ysgol Y Creuddyn. Fe'i lleolir ar safle pwrpasol ar gyrion Bae Penrhyn, rhwng Llandudno a Bae Colwyn. Fe'i henwir ar ôl Y Creuddyn, enw hanesyddol yr ardal a chwmwd yn yr hen gantref Rhos.
Mae yna tua 650 o ddisgyblion yn Ysgol Y Creuddyn, rhwng 11 a 18 oed.