Bae Penrhyn
Oddi ar Wicipedia
Pentref neu dref fechan ym mwrdeisdref sirol Conwy yw Bae Penrhyn (Saesneg: Penrhyn Bay). Saif ar yr arfordir gerllaw Rhiwledyn, rhwng Llandudno a Llandrillo-yn-Rhos. Mae'n rhan o gymuned Llandudno a phlwyf Llanrhos.
Yr adeilad hynaf yma yw Hen Neuadd Penrhyn, catref teulu Pugh. Roedd y teulu yma yn reciwsantiaid Catholig yn niwedd y 16eg ganrif. Ar 14 Ebrill 1587, cafwyd hyd i wasg gudd ar gyfer llenyddiaeth Gatholig mewn ogof ar Riwledyn, a gafodd ei defnyddio gan Robert Pugh o'r Penrhyn a'i gaplan y Tad William Davies i argraffu Y Drych Cristianogawl (gan Robert Gwyn neu Gruffydd Robert), y llyfr cyntaf i gael ei gyhoeddi yng Nghymru. Llochesant yno i geisio dianc yr erledigaeth ar Gatholigion a gychwynwyd gan Elisabeth I o Loegr ym Mai 1586. Ceir adfeilion capel canoloesol cysegredig i'r 'Forwyn Fair o'r Penrhyn', wrth lethrau isaf Rhiwledyn ger Hen Neuadd Penrhyn; rhoddwyd y gorau i'w ddefnyddio ym 1930.
Ceir yma eglwys, tafarn, llyfrgell a nifer o siopau. Tyfodd Bae Penrhyn yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif, pan ddaeth yn faesdref i Landudno.
[golygu] Gweler hefyd
Trefi a phentrefi Conwy |
Abergele | Bae Cinmel | Bae Colwyn | Bae Penrhyn | Betws-y-Coed | Betws yn Rhos | Bylchau | Capel Curig | Capel Garmon | Cefn-brith | Cerrigydrudion | Conwy | Craig-y-don | Cwm Penmachno | Cyffordd Llandudno | Deganwy | Dolgarrog | Dolwyddelan | Dwygyfylchi | Eglwysbach | Gellioedd | Glasfryn | Gwytherin | Gyffin | Henryd | Llanbedr-y-cennin | Llandrillo-yn-Rhos | Llandudno | Llanddoged | Llanddulas | Llanefydd | Llanfairfechan | Llanfair Talhaearn | Llanfihangel Glyn Myfyr | Llangernyw | Llangwm | Llanrwst | Llanrhos | Llanrhychwyn | Llan Sain Siôr | Llansanffraid Glan Conwy | Llansannan | Llysfaen | Maenan | Y Maerdy | Melin-y-coed | Mochdre | Pandy Tudur | Penmachno | Penmaenmawr | Pensarn | Pentrefoelas | Pentre-llyn-cymmer | Pentre Tafarn-y-fedw | Rowen | Rhydlydan | Rhyd y Foel | Trefriw | Tyn-y-groes | Tywyn | Ysbyty Ifan |