Ystên Sioned
Oddi ar Wicipedia
Llyfr hynod a olgywyd gan Daniel Silvan Evans (1818-1903) a John Jones ("Ivon"). Ei deitl llawn yw Ysten (sic) Sioned: neu Y Gronfa Gymmysg, ac mae'n dwyn yr arwyddair Pob sorod i'r god ag ef (dihareb). Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf yn 1882 a chafwyd sawl argraffiad arall yn negawdau olaf y 19eg ganrif.
Ystyr ystên yw "piser, bwced, llestr" (Geiriadur Prifysgol Cymru). Mae'r geiriadurwr John Walters (1721-1797)yn nodi enghraifft o'r enw ystên Sioned yn ei Welsh-English Dictionary 1773 ac yn rhoi'r diffiniad, Gallimaufry, medley, jumble. Dipyn bach o bopeth, felly. Fel y mae'r enw yn awgrymu, digon cymysgryw ydyw cynnwys y llyfr ei hun. Ceir ynddo detholiad o chwedlau gwerin a straeon ysbryd o sawl ffynhonell, rhai ohonynt wedi'u codi o enau gwerinwyr, ynghyd â cherddi a phenillion a darnau eraill.
Roedd Ystên Sioned yn llyfr poblogaidd iawn yn ei ddydd ac mae'n nodweddiadol o'i gyfnod fel llyfr ar gyfer y werin sy'n ceiso bod yn ddifyr ac eto ar yr un pryd yn addysgol. Erys yn gyfrol werth ei darllen heddiw, am ei chynnwys ac am ei diddordeb hanesyddol a chymdeithasol.