Hen Benillion
Oddi ar Wicipedia
Erthyglau ynglŷn â Llenyddiaeth Gymraeg |
Cyfnodau |
Canu cynnar · Oesoedd Canol |
Barddoniaeth a drama |
Yr Hengerdd · Canu'r Bwlch |
Rhyddiaith |
Rhyddiaith Cymraeg Canol |
Erthyglau eraill |
Llawysgrifau · Llên gwerin |
Penillion syml yn mynegi teimladau cyffredin megis serch, marwolaeth, natur neu ddoethineb yw'r Hen Benillion. Maent yn gerddi traddodiadol a does neb yn gwybod pwy a'u hysgrifennodd fel arfer.
Mae'r rhan fwyaf o'r Hen Benillion yn dyddio i'r Cyfnod Modern Cynnar. Ceir sawl casgliad ohonynt yn y llawysgrifau Cymreig. Ceir casgliadau pwysig mewn llyfrau printiedig cynnar yn ogystal, yn cynnwys y Flores Poetarum Britannicorum o gasgliad y Dr John Davies, Mallwyd (1710). Cyfeiria Huw Jones o Langwm atynt yn ei ragymadrodd i'r flodeugerdd Diddanwch Teuluaidd (1763). Cyhoeddodd Edward Jones (Bardd y Brenin) ddetholiad pwysig hefyd, yn ei Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards (1784/1794/1808). Casgliad pwysig arall yw'r hwnnw a geir yn y llyfr bychan Lloches Mwyneidd-dra gan Absalom Roberts, a gyhoedwyd yn Llanrwst yn 1828. Casglwyd a golygwyd detholiad cynrycholiadol o'r penillion hyn o sawl ffynhonnell gan T. H. Parry-Williams a'u cyhoeddi yn 1940.
[golygu] Llyfryddiaeth
- T. H. Parry-Williams (gol.), Hen Benillion (Y Clwb Llyfrau Cymreig, 1940; sawl argraffiad ers hynny).