Aderyn-Drycin y Graig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Aderyn-Drycin y Graig | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Dosbarthiad biolegol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Enw deuenwol | ||||||||||||||
Fulmarus glacialis Linnaeus, 1761 |
Mae Aderyn-Drycin y Graig, (Fulmarus glacialis), yn aelod o deulu'r Procellariidae, yr adar-drycin.
Mae gan Aderyn-Drycin y Graig ddosbarthiad eang o gwmpas glannau gogleddol Ewrop, Asia ac America. Er fod yr aderyn yma yn edrych yn debyg i wylan ar yr olwg gyntaf, nid oes unrhyw berthynas rhyngddynt.
Mae'n nythu ar greigiau gerllaw'r môr, ac yn dodwy un wy gwyn. Mae'r cywion. a'r oedolion pan maent yn nythu, yn medru cyfogi cymysgedd olewllyd o'r stumog ar ben unrhyw ddyn neu anifail sy'n dod yn rhy agos. Yn y gaeaf maent yn byw ar y môr agored. Eu prif fwyd yw pysgod.
Mae'r aderyn rhwng 43 a 52 cm o hyd a 101-117 cm ar draws yr adenydd. Gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y gwylanod trwy eu dull o hedfan, heb blygu'r adenydd. Mae'r pig hefyd yn wahanol iawn i un gwylan os gwelir yr aderyn yn weddol agos.
Tua 60 mlynedd yn ôl yr oedd Aderyn-Drycin y Graig yn aderyn gweddol brin yng Nghymru, ond erbyn hyn mae'n gyffredin yn yr haf lle bynnag y mae creigiau addas i nythu ger glan y môr. Credir fod y cynnydd yn ei nifer yn rhannol o leiaf oherwydd fod mwy o bysgota ar y môr yn golygu fod mwy o weddillion pysgod ar gael iddynt.