Afon Mawddach
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Mawddach yn afon yng ngogledd Cymru sy'n cyrraedd y môr yn Abermaw. Mae rhan olaf ei chwrs yn cynnwys rhai o'r golygfeydd afon prydferthaf yng ngwledydd Prydain ac yn atyniad i artistiaid ers y 18fed ganrif.
Mae tarddiad Afon Mawddach ychydig i'r gogledd o fynyddoedd Rhobell Fawr a'r Dduallt yng nghorsdir eang Waun-y-griafolen, tua 450m uwchben lefel y môr. Ar ei chwrs troellog o dueddiad gorllewiniol i awr i Ganllwyd mae nifer o ffrydiau llai yn ymuno â hi, megys Nant-yr-Helyg, Afon Bryn-llin-fawr, ac Afon Ceirw ychydig cyn cyrraedd Pont Aber Ceirw. Ar ei chwrs trwy Goed y Brenin mae afon fwy sylweddol, Afon Gain, yn ymuno â hi; ceir ddwy raeadr ger yr aber, sef Pistyll Cain a Rhaeadr Mawddach.
Ar ôl i Afon Eden ymuno â hi mae'r Fawddach yn llifo yn ei blaen tua'r de trwy bentref Ganllwyd, dan gysgod Y Garn, mae'n cyrraedd Llanelltyd. Yno y ceir safle hen gored ar yr afon oedd ar un adeg yn perthyn i Abaty Cymer, hen sefydliad Sistersiaidd a fu'n gefnogol iawn i dywysogion Gwynedd; saif ei adfeilion ar y lan ddwyreiniol. Mae'r afon yn mynd heibio i hen blasdy Hengwrt, cartref y Fychaniaid gynt, noddwyr llên a diwylliant Meirionnydd, cyn ymuno ag Afon Wnion ym Maes y Garnedd.
Ar ran olaf ei thaith mae'n troi tua'r gorllewin i Benmaenŵl, gan redeg dan yr hen bont doll, lle mae'r aber yn dechrau. Am y pedair milltir olaf mae'r afon yn ymledu'n sylweddol gyda bryniau Cadair Idris i'r de a Llawlech a Diffwys, dau o gopaon Ardudwy, i'r gogledd. Yna mae'n llifo dan bont reilffordd Abermaw i aberu ym Mae Ceredigion.
Ceir pysgota da am Eog a Brithyll yn Afon Mawddach, ac mae ychydig a aur i'w ddarganfod ymysg y graean yn yr afon, er nad oes llawer ar ôl bellach.
[golygu] Lluniau
Dyma ddau awyrlun a hen ddarlun o'r gwefan Casglu'r Tlysau (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth):