Ardudwy
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o ddau gwmwd cantref Dunoding, gydag Eifionydd, oedd Ardudwy. Pan greuwyd yr hen siroedd yn 1284 cafodd ei gynnwys yn Sir Feirionnydd. Roedd yn ymestyn o'r Traeth Mawr yn y gogledd i Afon Mawddach yn y de. Ffiniai â chwmwd Eifionydd yn Dunoding ei hun, Arfon, a Nant Conwy yn Arllechwedd yn y gogledd. Yn y dwyrain rhannai ffin â chantref Penllyn ac yn y de â chwmwd Thal-y-bont yng nghantref Meirionnydd.
Mae'n bosibl fod Ardudwy yn 'wlad' (teyrnas) annibynnol yn y Gymru gynnar. Túath yw'r gair Gwyddeleg sy'n cyfateb i 'wlad' / 'teyrnas' yn Gymraeg Canol; ei wraidd yw tud, 'gwlad, pobl'. Dyna a geir yn yr enw Ardudwy (ar + tud + -wy) a meddylir fod yr enw yn dynodi'r llwyth a fu'n byw yn yr ardal.
Yn ddiweddarach cafodd Ardudwy ei rannu'n ddau gwmwd, sef Ardudwy Uwch Artro ac Ardudwy Is Artro (eto'n rhan o gantref Dunoding).
Tir gwyllt a mynyddig yw Ardudwy, gyda mynyddoedd y Rhinogau'n asgwrn cefn iddo. Roedd hen ffordd yn cysylltu Tomen y Mur a'r arfordir gan redeg trwy fwlch Drws Ardudwy. Eithriad yw'r gwastadeddau ar hyd yr arfordir lle ceir yr unig drefi o bwys heddiw. Er na fu erioed yn ardal gyfoethog mae'n llawn hanes a hynafiaethau. Yn Harlech yn Ardudwy mae llys Bendigeidfran yn Ail Gainc y Mabinogi. Ystumgwern, Is Artro, oedd maerdref y cwmwd.
[golygu] Ffynonellau
- Geraint Bowen (gol.), Atlas Meironnydd (Y Bala, 1975)
- John Edward Lloyd, A History of Wales (1911)