Amgueddfa Wlân Cymru
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Un o aelod-amgueddfeydd Amgueddfa Cymru yw Amgueddfa Wlân Cymru. Ei bwrpas yw dysgu ymwelwyr am bwysigrwydd diwydiant gwlân Cymru ym mywyd economaidd y wlad yn y gorffennol.
Fe'i lleolir ym mhentref Dre-fach Felindre, oedd ar un adeg yn ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân yn ne Cymru, ger Castellnewydd Emlyn, tua 16 milltir i'r gorllewin o Gaerfyrddin ar yr A484.
[golygu] Dolen allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.