Wicipedia:Eginyn
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Erthygl fer iawn yw eginyn, sydd fel arfer yn cynnwys un paragraff yn unig. Mae awdur eginyn yn ei greu er mwyn ysgogi pobl sydd â diddordeb yn y pwnc, neu sydd â llawer o wybodaeth amdano, i ychwanegu at yr erthygl.
Os byddwch chi'n creu eginyn, cofiwch ychwanegu {{eginyn}} at ddiwedd y darn, ac fe welwch y testun:
- Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
ar y diwedd, sy'n dangos i'r byd mai eginyn yw'r erthygl.
I weld pa erthyglau sydd angen eu hehangu, gwyliwch y rhestr hon.
Ewch ati felly!