Amwythig
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Tref yng ngorllewin canolbarth Lloegr yw Amwythig (Saesneg Shrewsbury). Amwythig yw canolfan weinyddol Sir Amwythig lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae Afon Hafren yn llifo trwy'r dref.
Taflen Cynnwys |
[golygu] Hanes
Codwyd castell ar y safle gan y Normaniaid yn 1070.
Ymwelodd Gerallt Gymro ag Amwythig yn ystod ei daith trwy Gymru yn 1188.
Ar 28 Mehefin 1283 galwodd Edward I o Loegr ei senedd i gyfarfod yn Amwythig i farnu Dafydd ap Gruffudd, Tywysog Cymru a brawd Llywelyn Ein Llyw Olaf. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.
Mae'r dref yn enwog am ei ysgol ramadeg i fechgyn a agorodd yn 1552; mae'r gwyddonydd Charles Darwin a'r bardd Syr Philip Sydney yn gyn-ddisgyblion.
[golygu] Cysylltiadau Cymreig
[golygu] Y wasg Gymraeg yn Amwythig
Symudodd Thomas Jones yr almanaciwr ei wasg o Lundain i Amwythig yn 1695 i gyhoeddi llyfrau Cymraeg. Am tua ddeng mlynedd a thrigain ar ôl hynny Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan 1718 y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
Ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif roedd gan Stafford Prys wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y flodeugerdd Gymraeg Gorchestion Beirdd Cymru (1773).
[golygu] Dolenni allanol
- "Gwlad Darwin" - Gwasanaeth Amgueddfeydd Amwythig
- Cyngor Bwrdeistref Amwythig & Atcham
- Gwybodaeth i ymwelwyr Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.