Aristoteles
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Athronydd Groeg hynafol oedd Aristoteles (hefyd Aristotlys neu Aristotlus, Groeg: Ἀριστοτέλης). Fe'i ganwyd yn 384 CC yn Stagira, Chalcidici; ac fe fu farw ar y 7 Mawrth, 322 CC yn Chalcis, Ewboia yng Ngwlad Groeg. Roedd yn fyfyriwr i Platon ac yn athro i Alecsander Mawr. Ysgrifennodd ynglŷn ag amryw feysydd, gan gynnwys ffiseg, barddoniaeth, bioleg, rhesymeg, rhethreg, gwleidyddiaeth, llywodraeth, a moeseg. Ynghyd â Socrates a Platon, roedd yn un o athronwyr mwyaf dylanwadol Groeg hynafol. Trawsnewidiasant athroniaeth Gynsocrataidd yn sylfeini'r Athroniaeth Orllewinol gyfarwydd. Dywed rhai y bu i Platon ac Aristoteles ffurfio dwy ysgol bwysicaf athroniaeth hynafol; tra bod eraill yn gweld dysgeidiaeth Aristoteles yn ddatblygiad a diriaethiad o weledigaeth Platon. Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.