Bangor-is-y-coed
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Bangor-is-y-coed Wrecsam |
|
Mae Bangor-is-y-coed (hefyd Bangor Is-Coed) yn bentref ar Afon Dyfrdwy ym mwrdeistref sirol Wrecsam. Mae cae rasio ceffylau i'r de-orllewin o'r pentref.
[golygu] Mynachlog Bangor Is-coed
Roedd clas (mynachlog) Bangor Is-Coed yn ganolfan crefydd a dysg pwysig iawn yn hanes cynnar Cymru a'r Brydain Geltaidd. Yn ôl traddodiad sefydlwyd y fynachlog enwog gan y sant Dunawd yn y 6ed ganrif, gyda'i feibion Deiniol Wyn (nawddsant Bangor yng Ngwynedd), Cynwyl a Gwarthan. Roedd y sant wedi ffoi o'r Hen Ogledd a chafodd heddwch a lloches ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly penderfynodd sefydlu mynachlog yno.
Yn ôl yr hanesydd o Sais Beda, cafodd Bangor Is-Coed ei dinistrio gan y Saeson yn sgîl Brwydr Caer (tua 615 neu 616). Roedd carfan gref o'r mynachod wedi cymryd rhan yn y frwydr ei hun ond collwyd y dydd i luoedd y brenin Aethelfrith o Ddeira (Northumbria heddiw) a chollodd 1200 o'r mynachod eu bywydau.
Does dim olion o'r fynachlog i'w gweld yno heddiw.
[golygu] Y pentref
Mae pont pump bwa sy'n dyddio o tua 1660 yn rhychwantu Afon Dyfrdwy yn y pentref; credir iddo gael ei chodi gan y pensaer enwog Inigo Jones.
Trefi a phentrefi Wrecsam |
Bangor-is-y-coed | Brymbo | Bwlchgwyn | Coedpoeth | Froncysyllte | Glyn Ceiriog | Gresffordd | Holt | Llai Llanarmon Dyffryn Ceiriog | Mwynglawdd | Owrtyn | Rhiwabon | Rhosllanerchrugog | Y Waun | Wrecsam |