Deiniol
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sant Deiniol (hefyd Deiniol Wyn a Deiniol Ail, Lladin: Daniel) (fl. 550?) yw nawddsant dinas Bangor yng Ngwynedd, gogledd Cymru. Yn ôl yr achau yr oedd o'r un llinach ag Urien Rheged, pennaeth Rheged yn yr Hen Ogledd. Roedd yn fab i Sant Dunawd a Dwywe ferch Gwallog ap Llenog. Ei fab oedd Sant Deiniolen, a elwir yn Ddeiniol Fab yn ogystal.
Dywedir fod Deiniol yn byw fel meudwy ger Tyddewi cyn symud i'r fynachlog newydd ym Mangor Is-Coed a sefydlwyd gan ei dad, yn ôl traddodiad. Ceir ffynnon o'r enw Ffynnon Ddeiniol yno. Eto yn ôl traddodiad dywedir mai Deiniol a Dyfrig a berswadiodd Ddewi Sant i gynnal Synod Llanddewibrefi yn 545.
Sefydlodd Deiniol eglwys ym Mangor yn Arfon neu Fangor Fawr (dinas Bangor heddiw). Roedd yn abad ar gymuned o fynachod yno yn ôl pob tebyg a chafodd ei apwyntio'n esgob cyntaf esgobaeth Bangor (gan y brenin Maelgwn Gwynedd yn ôl un ffynhonnell, ond mae hynny'n anhebygol). Cafodd ei gladdu ymhlith yr Ugain Mil o Seintiau ar Ynys Enlli, yn ôl Gerallt Gymro.
Yn ogystal â Bangor Fawr, ceir eglwysi cysegredig i Ddeiniol yn y gogledd ym Marchwiail ger Wrecsam, Llanuwchllyn a Llanfor ger Y Bala, a Penarlâg (Hawarden) yn Sir y Fflint (lle codwyd Llyfrgell Deiniol Sant gan Gladstone). Ceir yn ogystal Landdeiniol yng Ngheredigion, ger Llanddewibrefi. Ceir ambell enghraifft o'i enw cysylltiedig ag egwlysi yn y de yn ogystal ond perthynai i'r hen Wynedd yn neilltuol.
Ei ddydd gŵyl yw 11 Medi.