Bodfan
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Sant o Gymro oedd Bodfan (fl. 6ed ganrif?). Yn ôl traddodiad roedd yn fab i Helig Foel. Bodran yw nawddsant Abergwyngregin yng Ngwynedd. Sefydlodd ei eglwys mewn golwg Traeth Lafan a oedd, yn ôl yr hen chwedl, yn dir sych ar un adeg cyn i'r môr ei foddi ar noson dymhestlog. Dywedir mai ar ôl iddo weld hynny a boddi Llys Helig y troes yn Gristion a dechrau byw fel meudwy. Ei gwylmabsant yw 2 Ionawr (hefyd 2 Mehefin).
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.