Brwydr Bryn Derwin
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Brwydr rhwng Llywelyn ein Llyw Olaf a'i frawd Owain Goch oedd Brwydr Bryn Dewin. Roedd anghytuno wedi bod pwy ddylai fod yn olynydd i Dafydd mab Llywelyn Fawr. Roedd rhai yn cefnogi Owain ac eraill yn cefnogi Llywelyn.
Mae Bryn Dewin ger Clynnog Fawr yn Arfon. Ar ôl brwydr hir a chaled daliwyd a charcharwyd Owain yng Nghastell Dolbadarn. O ganlyniad i'r frwydr hon daeth Llywelyn yn Dywysog Gwynedd. Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.