BSE
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau y Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol i chi, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbennigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i'r Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid arbennigwyr ydyn nhw i gyd ac felly mae'n bosib bod y wybodaeth a gynhwysir yn y dudalen hon yn anghyflawn neu yn anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbennigwr cymwys arall! |
Clefyd marwol gwartheg yw BSE (BovPrPsc: Enseffalopathi Sbyngffurf Buchol, Ymenyddglwyf Sbungfurff Gwartheg neu Clefyd y Gwartheg Gwallgof). Achosir gan prionau, sef darnau o brotein afiechid sydd yn effiethio ar ymenydd y buwch. Yn ystod y clefyd hon dinistriwyd yr ymenydd ac o ganlyniad yr afiechid ydi e fel sbwng: gan lawer o dyllau ynddo. Mae clefyd tebyg ar anifeiliaid eraill, hefyd -- er enghraifft clefyd tebyg iawn ar cathod, clefyd y crafu (ShPrPsc) ar defaid a geifr ac afiechyd Creutzfeld-Jacob (CJD) a Kuru ar bobl.
Achoswyd yr epidemig presennol gan bwyt sydd yn cynnwys y protein asiant. Ers y 1970au diheintiwyd pryd cig ac asgyrn a porthiwyd i gwartheg ddim yn ddigon dda. Fel arfer mae'r afiechyd yn dechrau ar buwch sydd yn 4-5 blwydden oed. Mae prawf ar gyfer BSE heddiw, ond mae'n rhaid lladd y buwch er mwyn gwneud hynny. Achos does dim ffordd gwella'r afiechyd hon ac achos pryderon ar gyfer trosglwyddiad i fuchod eraill mae rhaid lladd a llosgi cyrff y gwartheg gan yr afiechyd arnynt. Fel arfer, ceir yr holl gyr ei lladd a'i llosgi.
Dechreuodd yr afiechyd hon yn y 1980au ym Mhrydain. Ym 1985 a 1986 darganfodwyd BSE ar deg buwch yng Nghaint, Lloegr achos gallen nhw ddim cerdded yn iawn. Ond mae'n bosib mai afiechyd fel hynny yn digwydd ers meitin heb cael ei cydnabod.
[golygu] Trosglwyddiad i bobl
Ym 2003 roedd afiechyd tebyg iwan ar 152 o bobl ym Mrydain. Ar gyfer llawer ohonyn oes prawf ar gyfer eu wedi bwyta cig buwch gan yr afiechyd arnynt. Yn bennaf mae'n rhaid osgoi bwyta meinweoedd nerfol a lymffatig yn ogystal ag esgyrn cefn gwartheg afiach.